Mae Cynllun y Cyngor (2022-28) yn rhestr o bethau mae’r Cyngor wedi ymrwymo i wneud i gefnogi pobl leol a chymunedau. . 

 

Wrth nodi’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud, rydym wedi rhoi ystyriaeth i sut gallwn ni helpu pobl heddiw a sut gallwn ddiogelu lles pobl yn y dyfodol - ein plant ni a phlant ein plant.  ‘Amcanion Lles’ yw’r enw ar y rhain.

 

Nid yw popeth mae’r Cyngor yn ei wneud wedi’i grybwyll yng Nghynllun y Cyngor (2023-28), ond bob dydd mae’r holl waith a gyflawnir gan y Cyngor, yn ei ffordd ei hun, yn helpu i ddarparu'r hyn rydym am ei wneud.  

 

Mae Ein Cynllun y Cyngor (2023-28), sy’n cynnwys manylion am ein hamcanion Lles, ar ein gwefan

 

Hoffem ofyn rhai cwestiynau i chi am beth sy’n bwysig i chi.  Bydd yr atebion a roddwch i ni yn ein helpu i ddeall a yw’r pethau rydym yn eu rhestru yn y Cynllun yn iawn neu oes angen eu newid. 

 

Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn Sir y Fflint ateb y cwestiynau, er enghraifft, pobl sy’n byw yma, sy’n mynd i’r ysgol neu’r coleg yma, sy’n berchen ar fusnes neu’n gweithio yma, neu sy’n ymweld â’r ardal, neu’n dod yma i siopa neu ar wyliau. 

 

Y dyddiad cau ar gyfer ateb y cwestiynau yw dydd Llun, 7 Hydref 2024. 

 

Sut fyddwn yn delio â’r data rydych yn ei roi i ni

Bydd y wybodaeth a ddarperir yn yr holiadur yn cael ei phrosesu gan Gyngor Sir y Fflint i sicrhau bod profiadau a barn budd-ddeiliaid yn cyfrannu at ddatblygiadau a gwelliannau y cytunwyd arnynt yng Nghynllun y Cyngor (2023-28). 

 

Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint fel rhan o dasg cyhoeddus ar gyfer dibenion penodol i sicrhau fod y Tîm Rheoli Perfformiad a Risg yn ystyried barn pobl Sir y Fflint wrth ystyried Cynllun y Cyngor (2023-28), o dan adran 70 a 71 (1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2016 ac adrannau 169(6).   Mae Cynllun y Cyngor (2023-28) yn cynnwys crynodeb o ddatganiad lles y Cyngor a’i brif flaenoriaethau sy’n adnabyddus fel ‘Amcanion Lles’ sy’n ofyniad yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. 

 

Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data gydag unrhyw sefydliad arall.   Bydd y Tîm Rheoli Perfformiad a Risg yn cadw eich data am 3 blynedd ar ôl derbyn eich holiadur. 

 

Os ydych chi’n credu bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch chi wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan nhw neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.  

 

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - http://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/ContactUs/Privacy-Notice.aspx