Mae Cyngor Sir y Fflint wedi rhagweld diffyg o £38.4 miliwn yn yr arian y mae ei angen ar gyfer gwariant yn 2025/26.

 

O dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae’n anghyfreithlon i unrhyw Gyngor yn y DU i fynd i flwyddyn ariannol newydd heb osod cyllideb sydd wedi cydbwyso’r arian mae’n ei gael gyda’r arian y mae ei angen ar gyfer gwariant. 

 

Am ymhell dros ddegawd mae bob Cyngor yn y DU wedi wynebu heriau ariannol sylweddol oherwydd tanwario blwyddyn ar ôl blwyddyn gan lywodraethau cenedlaethol.

 

Dros y cyfnod hwn mae Sir y Fflint wedi torri ei wariant o fwy na £125 miliwn.


Mae 68% o’r cyllid mae Sir y Fflint yn ei gael yn dod gan Lywodraeth Cymru ac y pen o’r boblogaeth rydym yn 20 allan o 22 Cyngor yng Nghymru ar gyfer yr arian a gawn i ddarparu gwasanaethau.


Bob blwyddyn daw’n fwy anodd ac rydym yn rhannu ein pryderon y gall y bwlch rhwng yr arian a gawn a’r hyn sydd angen i ni ei wario fynd yn rhy fawr, ond gyda llawer o waith caled a rhai penderfyniadau anodd rydym yn llwyddo i’w wneud o drwch blewyn. 

 

Dros y cyfnod hwn rydym wedi defnyddio’r holl ddewisiadau hawdd i dorri gwariant ac rydym hefyd wedi defnyddio’r dewisiadau cymedrol i anodd.  Heb unrhyw arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru rydym mewn sefyllfa ddifrifol, gritigol ble mai’r unig beth sy’n weddill i ni yw dewisiadau anodd a fydd yn effeithio’n sylweddol ar ein trigolion a’r gweithlu.

 

Er ein bod yn gweithio’n galed i ganfod atebion, nid ydym yn gor-ddweud pan ddywedwn y gall 2025/26 fod y flwyddyn pan na allwn gau’r bwlch. 

 

Pam fod 2025/26 mor wahanol i flynyddoedd eraill?

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei gyllideb yn Rhagfyr a heb gynnydd sylweddol yn ein harian byddwn yn wynebu her fawr a difrifol.  

Mae bob 1% o gyllid ychwanegol a gawn gan Lywodraeth Cymru yn werth £2.585 miliwn.  

 

I leihau ein bwlch 50% (£19.202 miliwn) byddem angen cynnydd o 7.4% gan Lywodraeth Cymru.  

 

Mae dadansoddiad annibynnol o gyllideb Llywodraeth Cymru yn nodi, ar y gorau, y byddwn ond yn cael 1% neu lai.   Ni allwn chwaith ddiystyru cynnydd o 0%, felly nes ein bod yn gwybod mwy rhaid i ni gynllunio ar gyfer y posibilrwydd hwn.  

 

I gydbwyso cyllidebau yn y gorffennol, mae Sir y Fflint eisoes wedi gwneud beth mae Cynghorau eraill leded y DU yn ei ystyried ar hyn o bryd i dorri gwariant. Nid oes gennym lawer o ddewisiadau ar ôl i dorri mwy o wariant heb i’n trigolion a’n gweithlu deimlo’r effaith.  

 

Mae hi’n gyfnod critigol o ran ystyriaethau a hoffai Cynghorwyr glywed eich safbwyntiau a’ch barn. 

 

Mae mwy o wybodaeth am ein heriau o ran y gyllideb ar ein gwefan (yn agor mewn ffenestr newydd). 

 

I weld sut y byddwn yn ymdrin â’r wybodaeth a gawn gennych ewch i’n gwefan (agor mewn ffenestr newydd).