Barn ar ofal plant

Rydym yn casglu barn rhieni a gofalwyr am eu profiadau gyda gofal plant yng Nghymru. Mae'r arolwg hwn yn rhan o ymchwil gan Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (RhCM), gydag Arad Research yn cynnal yr arolwg ar ein rhan.

 

Mae'r arolwg ar gyfer rhieni a gofalwyr plant 0-4 oed, gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio gofal plant ffurfiol a'r rhai nad ydynt yn ei ddefnyddio. Bydd y canfyddiadau'n cael eu defnyddio yng ngwaith ymgyrchu ac eiriolaeth RhCM i'n helpu i lunio gofal plant yng Nghymru yn y dyfodol.

 

Ni fyddwn yn gofyn eich enw, a bydd yr holl wybodaeth a rannwch yn cael ei chadw'n ddiogel ac yn ddienw. Cewch fwy o wybodaeth yma am sut rydym yn defnyddio eich data.

 

Ar ddiwedd yr arolwg, cewch gyfle i ennill taleb siopa o £100. Byddwn yn gofyn i chi roi eich enw a'ch manylion cyswllt ar dudalen ar wahân fel na fydd modd i ni gysylltu eich enw gyda'ch atebion.

 

Os oes angen help arnoch i gwblhau'r arolwg hwn, neu os hoffech drefnu i rannu eich atebion dros y ffôn, e-bostiwch post@arad.wales.