Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig cyflwyno cynllun Trwyddedu Ychwanegol newydd ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth ar draws Sir y Fflint.  


Mae’r ddogfen ymgynghoriad cyhoeddus hon yn amlinellu dull arfaethedig Cyngor Sir y Fflint, y rhesymau dros y cynllun, a sut fydd o fudd i’r rhai sy’n byw, yn gweithio ac yn gweithredu o fewn y sector rhentu preifat ar draws Sir y Fflint.  


Mae’r holiadur ymgynghori yn ceisio casglu barn pawb a allai gael eu heffeithio gan y cynllun, a bydd yn cael ei - gynnal am o leiaf 10 wythnos gan ddechrau ar 31 Mawrth 2025.


Gall pobl nad ydynt yn gallu llenwi’r arolwg ar-lein fynd i unrhyw un o’r Canolfannau Cyswllt lle bydd modd cael cefnogaeth. Mae Canolfannau Cyswllt ar agor rhwng 9am a 4.30pm ar y diwrnodau canlynol: 

 

•    Bwcle:  dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau
•    Cei Connah, Y Fflint a Threffynnon: dydd Llun i ddydd Gwener 
•    Yr Wyddgrug:  dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener

Sut ydym yn trin eich gwybodaeth - Hysbysiad Preifatrwydd 

 

Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint at ddibenion penodol asesu eich cais am Drwydded Tai Amlfeddiannaeth yn unig.  Rhaid prosesu eich data personol at ddibenion y Ddeddf Tai 2004 ac er mwyn cyflawni tasg a wneir er lles y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i’r rheolydd.


Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw am 12 mis ar ôl i'ch trwydded ddod i ben neu gael ei chanslo. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gydag unrhyw sefydliad arall.


Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.


I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx (agor mewn ffenestr newydd).