Gweithlu caffael Sector Cyhoeddus Cymru

0%

1. Cyflwyniad
Tudalen 1 o 6

 
Rydym eisiau eich helpu gyda'r heriau o ran capasiti a gallu'r gweithlu caffael y mae eich sefydliad yn eu hwynebu.

Bydd eich atebion yn ein helpu i asesu maint a strwythur proffesiynol timau caffael ar draws sector cyhoeddus Cymru. Bydd yr arolwg yn llywio datblygiad a blaenoriaethau'r strategaeth a sut rydym yn mesur llwyddiant ein rhaglenni. Bydd arolygon y dyfodol yn holi’n fanwl am yr hyfforddiant sydd ei angen ar ein gweithlu.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis yr opsiwn 'Cadw a Pharhau Nes Ymlaen' ar waelod y dudalen yma cyn i chi ddechrau'r arolwg. Bydd gofyn i chi gyflwyno eich enw a'ch cyfeiriad e-bost. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn derbyn e-bost gyda dolen i gael mynediad i'r arolwg rydych chi wedi’i gwblhau’n rhannol ar unrhyw adeg yn y dyfodol. Efallai y bydd rhai cwestiynau’n gofyn i chi chwilio am wybodaeth ychwanegol gan eich sefydliad. Mae dewis yr opsiwn ‘Cadw a Pharhau yn Ddiweddarach' yma’n sicrhau na fyddwch yn colli’r hyn rydych chi wedi’i wneud ac y gallwch ddychwelyd i ychwanegu gwybodaeth ar unrhyw adeg.

Mae'r arolwg hwn yn cynnwys 22 o gwestiynau ar draws y 5 adran ganlynol:

Gwybodaeth am eich Sefydliad / Tîm – Mae’r adran hon yn ymwneud â’ch tîm caffael a bydd yn helpu o ran darparu cyd-destun ar gyfer eich ymateb i’r holiadur hwn.

Maint a Strwythur y Gweithlu - Hoffem wybod am faint eich gweithlu caffael ac unrhyw gynlluniau i newid eich gweithlu yn sylweddol.

Recriwtio a Chadw - Mae timau caffael ar draws Cymru yn wynebu heriau o ran recriwtio a chadw. Hoffem ddeall maint yr heriau hyn ar draws y sector.

Statws Proffesiynol a Hyfforddiant Ffurfiol - Mae gennym ddiddordeb mewn deall faint o weithwyr proffesiynol cymwysedig CIPS sydd yn eich tîm ac ar ba lefel ynghyd â deall y cymwysterau eraill rydych yn gofyn amdanynt ar y lefelau proffesiynol amrywiol.

Fframwaith cymhwysedd proffesiynol - Mae fframwaith cymhwysedd yn set strwythuredig a chynhwysfawr o sgiliau, gwybodaeth, ymddygiadau a phriodoleddau sy'n ofynnol ar gyfer perfformiad effeithiol o fewn rôl neu broffesiwn penodol a gellir ei ddefnyddio ar gyfer recriwtio, hyfforddi, gwerthuso perfformiad a datblygu gyrfa. Rydym am ddeall yr angen am fframwaith cymhwysedd caffael cyhoeddus yng Nghymru a nodi unrhyw fframweithiau cymwyseddau proffesiynol a ddefnyddir ar hyn o bryd gan y sector.

Gofynnir i'r holl ymatebwyr ddefnyddio diffiniadau a chategorïau Safonau Byd-eang CIPS o rolau swyddi o weithwyr proffesiynol tactegol i weithwyr proffesiynol uwch, wrth ymateb i’r holiadur hwn. Mae hyn er mwyn helpu i ddarparu ymateb wedi’i safoni.

Gallwch arbed a dychwelyd i'r holiadur hwn ar unrhyw adeg.

Mae'r defnydd o'ch data yn cael ei lywodraethu o dan delerau ein Hysbysiad Preifatrwydd, y gellir ei weld yn y cyfeiriad hwn: https://www.llyw.cymru/arolwg-gweithlu-caffael-hysbysiad-preifatrwydd

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg hwn, e-bostiwch: Commercialcapability@gov.wales