Childcare and play improvement project – pilot - invite

0%
 
Annwyl ddarparwr,
Yr haf diwethaf gwnaethom ddweud wrthych ein bod yn archwilio dull newydd o gefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae i wella, a fydd yn mynd law yn llaw â'n methodoleg arolygu presenol.
Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gydag ystod o randdeiliaid i ddatblygu math newydd o gyfarfod gyda darparwyr rhwng eu harolygiadau, a elwir yn Gyfarfodydd Gwella.
Nod y cyfarfodydd hyn yw rhoi'r cyfle i ddarparwyr ein hysbysu o unrhyw welliannau y maent wedi'u gwneud ers yr arolygiad diwethaf, gan gynnwys sut maent wedi ymateb i achos o ddiffyg cydymffurfio neu i argymhellion; unrhyw welliannau eraill y maent wedi'u nodi fel rhan o'u hunanwerthusiad; a'r hyn y maent wedi'i wneud i roi'r gwelliannau hyn ar waith.
Hoffem hefyd glywed am unrhyw welliannau wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol, a byddwn yn cyfeirio darparwyr at ffynonellau eraill i gael cyngor a chymorth a fydd, o bosibl, o help iddynt.
Y camau nesaf
Ein cam nesaf fydd treialu'r dull hwn ac rydym yn bwriadu ymgymryd â'r cyfarfodydd cynllun peilot hyn yn y gwanwyn ac ar ddechrau'r haf.
Mae hwn yn ddull newydd a chyffrous i'r ffordd rydym yn gweithio gyda darparwyr y gallwch gymryd rhan ynddo, gan fod angen grŵp o oddeutu 60 o ddarparwyr o amrywiaeth o wahanol fathau o leoliadau ledled Cymru arnom.
Fel rhan o'r cynllun peilot, bydd disgwyl i ddarparwyr gymryd rhan mewn Cyfarfod Gwella a chyfrannu at werthusiad o'r broses newydd hon.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael eich ystyried ar gyfer y cynllun peilot, cwblhewch yr arolwg byr hwn i fynegi eich diddordeb erbyn 17 Chwefror 2023.