Mae angen ymateb i'r cwestiwn yma
1.
A ydych chi'n gweithio i'r Bwrdd Iechyd? *
2.
Mae ein strategaeth ar waith ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn. Mae ei nodau craidd yn cynnwys:
• Gwella iechyd corfforol, emosiynol ac iechyd meddwl a lles i bawb
• Targedu ein hadnoddau at bobl sydd â'r anghenion mwyaf a lleihau anghydraddoldeb
• Rhoi cymorth i blant i gael y dechrau gorau mewn bywyd
• Gweithio mewn partneriaeth i roi cymorth i bobl - unigolion, teuluoedd, gofalwyr, cymunedau - i sicrhau eu lles eu hunain
• Gwella diogelwch ac ansawdd yr holl wasanaethau
• Cynrychioli pobl a'u hurddas
• Gwrando ar bobl a dysgu o'u profiadau
A ydych yn cytuno bod y nodau hyn yn dal i fod yn berthnasol?
3.
O ystyried yr heriau sydd wedi dod yn sgil COVID-19 dros y flwyddyn ddiwethaf, a oes unrhyw nodau y dylai'r Bwrdd Iechyd eu blaenoriaethu mwy nag eraill, yn eich meddwl chi?
Nodwch unrhyw nodau sy'n flaenoriaeth, yn eich meddwl chi
4.
Fel rhan o adnewyddu ein strategaeth, a oes unrhyw flaenoriaethau eraill y dylai'r Bwrdd Iechyd eu cynnwys neu eu newid erbyn hyn?
5.
A ydych wedi cael unrhyw brofiad yn ymwneud â sut mae'r nodau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol? e.e. mwy o wasanaethau'n agosach i'r cartref, gwell gofal ysbyty, gwell iechyd a llai o anghydraddoldeb iechyd.
6.
Pa mor effeithiol y mae'r Bwrdd Iechyd wedi bod o ran cyflwyno gwelliannau i iechyd a lles ei drigolion?
7.
Gwella Iechyd a Lleihau Anghydraddoldeb Iechyd
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i hybu lles a lleihau anghydraddoldeb. Bydd yn gwneud hyn trwy gynorthwyo pobl i ddiwallu eu hanghenion eu hunain, camu i mewn yn gynnar i atal problemau rhag gwaethygu a gwneud mwy i helpu pobl i wneud dewisiadau bywyd iach, fel rhoi'r gorau i ysmygu.
A ydych yn cytuno mai dyma'r ymagwedd gywir?
8.
Gwasanaethau Cychwynnol a Chymunedol
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i helpu pobl i reoli eu hiechyd eu hunain ac i roi cymorth i ofalwyr. Rydym yn gwneud hyn trwy gynnig a chyfeirio at ystod eang o gyngor, gwybodaeth a chymorth.
Er mwyn sicrhau bod modd i wasanaethau lleol ddiwallu anghenion pobl yn y ffordd gywir ar yr adeg gywir, a ydych yn cytuno mai dyma'r ymagwedd gywir i'w mabwysiadu o hyd?
9.
Gwasanaethau Llym
Ein tri phrif ysbyty yw Ysbyty Gwynedd, Bangor; Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan; ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Bydd pob un o'r tri yn cyflawni rôl bwysig o ran diwallu anghenion pobl Gogledd Cymru nawr ac yn y dyfodol. Mae gan bob un adran achosion brys 24 awr y dydd, saith niwrnod o'r wythnos a gwasanaethau ategol.
Er mwyn sicrhau bod pobl yn cael cymorth yn gynt ar gyfer anghenion mwy difrifol, a ydych yn cytuno mai'r dyma ymagwedd gywir i'w mabwysiadu o hyd?
10.
Beth fyddai’n ei olygu i chi pe bai gofyn ichi deithio ymhellach i gael gofal o safon uwch?
11.
Cydraddoldeb ac Anfantais
Mae hybu cydraddoldeb a hawliau dynol yn egwyddor sy'n tanategu ein hymagwedd. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â rhwystrau o ran manteisio ar wasanaethau, gwneud addasiadau rhesymol a gweithio tuag at ganlyniadau gwell i bawb, gan gynnwys y rhai sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol.
A ydych yn cytuno bod y Bwrdd Iechyd yn cyflawni'r ymrwymiad hwn?
12.
Rhowch wybod i ni am unrhyw beth arall sy'n bwysig i'r Bwrdd Iechyd ei ystyried?
13.
Ble rydych chi'n byw? / Where do you live?