Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ganslo eich trwydded gweithfa hylosgi ganolig annibynnol neu generadur penodedig.

Os dymunwch gadw eich trwydded ond cael gwared ar rywfaint o'ch gweithfa hylosgi ganolig, bydd angen i chi wneud cais i amrywio eich trwydded.

Os byddwch yn dechrau'r ffurflen ond yn gweld nad ydych yn barod i'w chwblhau:

  • gallwch ddewis ‘cadw a pharhau’
  • rhowch eich cyfeiriad e-bost
  • a byddwn yn anfon dolen unigryw atoch
  • cliciwch ar y ddolen i ailgyflwyno'ch ffurflen sydd wedi'i chadw