Ymgynghoriad ar Gynllun Strategol 2025-28

0%
 

Rydym yn cynnal ymgynghoriad er mwyn casglu adborth ar ddatblygiad ein Cynllun Strategol ar gyfer 2025-28. Yr arolwg hwn yw un o’r ffyrdd rydyn ni’n casglu adborth. 

Caiff eich atebion eu defnyddio er mwyn deall safbwyntiau ein rhanddeiliaid, a hysbysu datblygiad pellach mewn perthynas â’n Cynllun Strategol 2025-28.    
                    

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn ymgymryd â gwaith ymchwil o dan ei ddyletswyddau statudol a caiff y wybodaeth a ddarparwch ei phrosesu o dan y pwerau hyn yn unig, at ddiben yr ymchwil hwn. 

Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei storio yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd a’i defnyddio at ddiben yr ymchwil hwn yn unig. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon o dan ein pwerau statudol ac fe allem gyhoeddi adroddiad o’n gwaith ymchwil, fodd bynnag bydd unrhyw wybodaeth a ddarparwch yn cael ei wneud yn anhysbys yn ein hadroddiad a gyhoeddir ac ni chewch eich hadnabod yn yr adroddiad. 

Efallai y bydd rhywfaint o ddata yn cael ei gasglu trwy wefan SmartSurvey pan fyddwch yn cwblhau'r arolwg. I gael gwybod mwy am hyn, cyfeiriwch at bolisi preifatrwydd SmartSurvey. 

Ydych chi’n hapus i gymryd rhan yn yr arolwg hwn?  *