Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall yr effaith y mae cau Porthladd Caergybi wedi ei gael ar fusnesau.

 

Cyhoeddodd Stena Line ar 17 Rhagfyr 2024 y byddai Porthladd Caergybi yn aros ar gau i draffig fferi tan o leiaf 15 Ionawr 2025 i wneud gwaith atgyweirio brys.

 

Roedd hyn oherwydd difrod yn dilyn Storm Darragh ar ddechrau Rhagfyr.

 

Rydym eisiau eich barn

 

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi os ydych chi'n fusnes Cymreig ac mae cau Porthladd Caergybi wedi effeithio'n uniongyrchol arnoch chi.

 

Eich preifatrwydd

 

Mae gennych hawl i wybod sut rydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi. Gallwch ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd a pholisi diogelu data ar wefan Cyngor Sir Ynys Môn.

 

Gallwch roi eich cyfeiriad e-bost i ni ar ddiwedd yr arolwg hwn. Mae hyn yn ddewisol.