Yn ddiweddar, mae Gwasanaethau Tai Môn wedi profi pa mor fforddiadwy yw’r rhenti a’r taliadau gwasanaeth rydym yn godi.

 

Rydym yn hynod o falch o gyhoeddi bod pob un wedi pasio y meini prawf fforddiadwy.

Rydym wedi defnyddio dull a ddatblygiwyd gan y Joseph Rowntree Foundation i wneud y gwaith hwn.

 

Dull hynod o boblogaidd sy’n dweud bod rhent yn fforddiadwy os nad yw yn fwy na 28% o incwm y tenant neu 33% o’r incwm os yw’r tenant hefyd yn talu am dal gwasanaeth (service charge).

Yn naturiol, nid oes ganddom wybodaeth am incwm pob un o’n tenantiaid. Felly, rydym wedi defnyddio y ‘real living wage’ i gyfrifo hyn gan ein bod yn credu bydd y mwyafrif o’n tenantiaid sy’n gweithio yn ennill hyn o ganlyniad i Lywodraeth Cymru geisio hybu cyflogwyr i dalu’r lefel hwn.

Rydym yn hynod o falch o gael rhannu’r newyddion yma gyda chi. Rydym angen gwybod sut mae hyn yn ei deimlo i chi.

 

Ydi hyn yn beth fyddech chi yn ei feddwl?

 

Rydym yn awyddus iawn i gael eich barn ar hyn ac ar y gwasanaethau rydych yn eu derbyn gan Gwasanaethau Tai Môn trwy cwblhau'r holiadur hwn.

 

Gwobr raffl

 

Ar ddiwedd yr holiadur, byddwn yn gofyn i chi gadarnhau eich manylion cyswllt os hoffwch gymryd rhan yn ein gwobr raffl.