Yr wyf yn ysgrifennu i roi gwybod i chi fod y Tîm Grant Cymorth Tai am adolygu’r gwasanaeth yr ydych yn ei dderbyn. Grant Cymorth Tai sy’n talu costau’r gefnogaeth yr ydych yn ei derbyn ac sydd hefyd yn gyfrifol am wneud yn siŵr fod y gwasanaeth yn eich cynorthwyo chi i gael canlyniadau cadarnhaol.

Hoffem eich gwahodd i gwblhau’r holiadur yma sy’n gofyn am eich barn gyda golwg ar y gwasanaeth cefnogol yr ydych yn ei dderbyn. Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys ymweld â darparwr y gefnogaeth i edrych ar y gwaith y mae’r prosiect yn ei wneud.
   
Bydd yr holiadur yn gyfrinachol. Yr eithriad i hyn fyddai pe gwelid bod yna risg bosibl i chi eich hun neu i rywun arall. Cesglir yr holl sylwadau i roi gwybodaeth i’r broses adolygu ac efallai y cânt eu defnyddio yn yr adroddiad terfynol.