Ynni Cymru: Cais am Gyllid Grant Cyfalaf

0%
 
Uchelgais Llywodraeth Cymru drwy Ynni Cymru yw helpu i ddatblygu Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) ymhob rhan o Gymru. I gefnogi hynny, mae cronfa o hyd at £10 miliwn wedi'i chreu fydd yn cael ei neilltuo fel grant i sefydliadau cymwys i gynnal prosiectau SLES ledled Cymru.

Dylai pob ymgeisydd ddarllen 'Canllawiau Ynni Cymru - Rhaglen Grant Cyfalaf' cyn dechrau llenwi'r cais i wneud yn siŵr bod y sefydliad a'r prosiect yn gymwys am grant. Rydym yn annog pobl o bob cefndir i wneud cais ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein proses ymgeisio yn hygyrch, felly cysylltwch â ni os hoffech addasiadau rhesymol.

Byddwch yn gallu cadw a golygu'r ffurflen gais a mynd yn ôl ati ar unrhyw adeg tan y dyddiad cau terfynol. Ond rhaid cyflwyno'r ffurflen gais ar ôl ei llenwi cyn 5pm ar 18 Hydref 2024.