Iaith:

Ymgynghoriad ar Orchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 drafft

 

C1. A yw’r diwygiad i is-adran (2BB), sy’n newid y cyfeiriad at '70 o ddiwrnodau' yn '182 o ddiwrnodau', ar gyfer diffinio’r cyfnod y mae'n rhaid bod eiddo neu eiddo cyfunol wedi cael ei osod mewn gwirionedd, yn glir? Os nad yw’n glir, sut y byddai’n bosibl ei wella?

 

C2. A yw’r diwygiad i is-adran (2BB), sy’n newid y cyfeiriad at '140 o ddiwrnodau' yn '252 o ddiwrnodau', ar gyfer diffinio'r cyfnod y mae’n rhaid bod bwriad i eiddo fod ar gael i'w osod a’r cyfnod y bydd eiddo wedi cael ei roi ar gael i'w osod, yn glir? Os nad yw’n glir, sut y byddai’n bosibl ei wella?

 

C3. A yw'r geiriad yn Erthygl 3 yn ei gwneud yn glir bod eiddo sy’n cael ei asesu cyn 1 Ebrill 2023 yn cael ei drin ar y sail ei fod yn bodloni'r trothwyon presennol?

 

C4. A oes unrhyw faterion eraill yn codi o ran cymhwyso’r Gorchymyn drafft yn ymarferol?

 

C5. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ynglŷn â’r ffordd y mae’r Gorchymyn Drafft wedi cael ei ddrafftio?

 

C6. Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effaith y byddai'r cynigion hyn yn ei chael ar y Gymraeg, ac ar y canlynol yn benodol:

i. cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
ii. peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Beth fyddai'r effeithiau yn eich barn chi? Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

 

C7. Eglurwch hefyd sut, yn eich barn chi, y byddai modd llunio’r cynigion, neu eu newid, er mwyn cael:
effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
dim effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

 

C8. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw’n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w cofnodi.