Iaith:

Cronfa ddata plant sy’n colli addysg

 

Ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad

 

Dylid dychwelyd ymatebion erbyn 25 Ebrill 2024.

Cwestiwn 1: Ar hyn o bryd nid yw awdurdodau lleol yn gwybod am bob plentyn yn eu hardal ond maent yn dal i fod yn gyfrifol amdanynt. Yn eich barn chi, a fydd y gofynion yn y rheoliadau yn helpu awdurdodau lleol i adnabod plant nad ydynt yn hysbys iddynt ar hyn o bryd neu blant sy’n colli addysg?

 

Cwestiwn 2: A yw'r cynnig hwn yn caniatáu i awdurdodau lleol gyflawni ei ddyletswydd adran 175 o dan Ddeddf Addysg 2002, sef ymgymryd â'u swyddogaethau addysg gyda'r bwriad o ddiogelu a hybu lles plant?

 
Cwestiwn 3: O dan y rheoliadau, bydd byrddau iechyd lleol yn datgelu'r wybodaeth yn yr Atodlen (enw, cyfeiriad, rhywedd a dyddiad geni plentyn) i'r awdurdod lleol fel y gall ddatblygu cronfa ddata plant sy’n colli addysg.

Cwestiwn 3 (i): A ydych yn cytuno bod yr wybodaeth y gofynnir amdani yn yr Atodlen yn rhesymol ac yn gymesur i alluogi'r awdurdod lleol i adnabod plant nad ydynt yn hysbys iddo ar hyn o bryd ac sydd o bosibl yn colli addysg?

 

Cwestiwn 3 (ii): A ydych yn cytuno bod yr wybodaeth y gofynnir amdani yn yr Atodlen yn ddigonol i alluogi'r awdurdod lleol i adnabod plant nad ydynt yn hysbys iddo ar hyn o bryd ac sydd o bosibl yn colli addysg?

 

Cwestiwn 4: A oes systemau a phrosesau amgen a fyddai'n galluogi'r awdurdod lleol i adnabod plentyn nad oes ganddo unrhyw wybodaeth flaenorol amdano?

 

Cwestiwn 5: Yn eich barn chi, pa fanteision ac anfanteision, os oes rhai, fyddai'n deillio o ddatgelu'r data gofynnol i boblogi'r gronfa ddata? Cwblhewch yr adran sy'n berthnasol i chi.

Cwblhewch yr adran sy'n berthnasol i chi.
i) Rhieni a gofalwyr
ii) Plant a phobl ifanc
iii) Byrddau iechyd lleol a contractwyr meddygol cyffredinol
iv) Awdurdodau lleol
v) Arall
 

Cwestiwn 6: Mae'r rheoliadau drafft yn cynnig bod byrddau iechyd lleol yn datgelu gwybodaeth i awdurdodau lleol yn flynyddol. A ydych yn cytuno â datganiad blynyddol?

 

Cwestiwn 7: Beth fyddai goblygiadau datganiad data amlach o ran technoleg, prosesau gweinyddol ac adnoddau i'r canlynol:

Eich ateb.
i) byrddau iechyd lleol
ii) awdurdodau lleol
iii) arall
 

Cwestiwn 8: Pa unigolion yn yr awdurdod lleol y byddai angen iddynt gael mynediad at y gronfa ddata er mwyn cyflawni eu swyddogaethau?

 

Byrddau iechyd lleol (9 i 12)

Cwestiwn 9: A oes unrhyw risgiau allweddol i breifatrwydd neu risgiau o ran cydymffurfiaeth a risgiau corfforaethol sy'n gysylltiedig â nhw?

 

Cwestiwn 10: A yw'r protocolau presennol sy'n ymwneud â data plant sydd wedi marw yn sicrhau na fydd unrhyw waith prosesu a wneir mewn perthynas â'r data hynny yn arwain at unrhyw gyfathrebu amhriodol â theuluoedd?

 

Cwestiwn 11: A oes gennych unrhyw brofiad blaenorol o'r math hwn o weithgarwch datgelu a phrosesu data?

 

Cwestiwn 12: A oes unrhyw oblygiadau ychwanegol o ran adnoddau a materion technegol mewn perthynas â phrosesu a datgelu'r data gofynnol i awdurdodau lleol?

 

Contractwyr gwasanaethau meddygol cyffredinol (13 i 14)

Cwestiwn 13: A oes unrhyw risgiau i breifatrwydd neu risgiau o ran cydymffurfiaeth a risgiau corfforaethol sy'n gysylltiedig â nhw?

 

Cwestiwn 14: A yw'r protocolau presennol sy'n ymwneud â data plant sydd wedi marw yn sicrhau na fydd unrhyw waith prosesu a wneir mewn perthynas â'r data hynny yn arwain at unrhyw gyfathrebu amhriodol â theuluoedd?

 

Awdurdodau lleol (15 i 19)

Cwestiwn 15: Yn eich barn chi, a yw eich systemau a'ch prosesau plant sy’n colli addysg presennol yn eich galluogi chi i fod yn hyderus eich bod yn ymwybodol o bob plentyn o oedran ysgol gorfodol yn ardal yr awdurdod lleol?

 

Cwestiwn 16: A yw'r protocolau presennol sy'n ymwneud â data plant sydd wedi marw yn sicrhau na fydd unrhyw waith prosesu a wneir mewn perthynas â'r data hynny yn arwain at unrhyw gyfathrebu amhriodol â theuluoedd?

 

Cwestiwn 17: A oes unrhyw risgiau allweddol i breifatrwydd neu risgiau o ran cydymffurfiaeth a risgiau corfforaethol sy'n gysylltiedig â nhw?

 

Cwestiwn 18: A oes gennych unrhyw brofiad blaenorol o'r math hwn o weithgarwch prosesu?

 

Cwestiwn 19: A oes unrhyw oblygiadau ychwanegol o ran adnoddau a materion technegol mewn perthynas â phrosesu'r data a geir gan fyrddau iechyd lleol?

 

Cwestiwn 20: Yn eich barn chi, a allai unrhyw beth yn y rheoliadau drafft gael effaith anghymesur ar bobl â nodweddion gwarchodedig?