Thema 1: Basgedi siopa iachach - sicrhau mai'r dewis Iach yw'r dewis hawdd
Cwestiwn 1. A ddylid cyflwyno deddfwriaeth i gyfyngu ar y mathau canlynol o ddulliau hyrwyddo cynhyrchion sy’n cynnwys lefelau uchel o Fraster, Halen neu Siwgr?
- gostyngiadau dros dro mewn prisiau
- cynigion amleitem
- cynigion cyfaint
Cwestiwn 2. A ddylid cyflwyno deddfwriaeth i gyfyngu ar osod cynhyrchion sy’n cynnwys lefelau uchel o fraster, halen a siwgr yn y mannau manwerthu canlynol?
- wrth fynedfa siop
- wrth y til
- pen yr eil
- unedau arddangos annibynnol
A oes unrhyw fannau eraill y dylid eu hystyried yn eich barn chi?
Cwestiwn 3. Sut y dylem benderfynu pa gategorïau o fwyd sydd angen eu cynnwys yng nghyfyngiadau cynnig 1 a 2?
Opsiwn A – Cynhyrchion sy’n cynnwys lefelau uchel o fraster, siwgr neu halen sy'n peri'r pryder mwyaf o safbwynt gordewdra yn ystod plentyndod
Opsiwn B – Pob cynnyrch sy’n cynnwys lefelau uchel o fraster, siwgr neu halen
(y ddau opsiwn i gyfyngu ar hyrwyddo cynhyrchion sy’n cynnwys lefelau uchel o fraster, siwgr neu halen sydd wedi'u cynnwys yn y Rhaglen Lleihau Siwgr, y Rhaglen Lleihau Calorïau a Threth y Diwydiant Diodydd Meddal yn seiliedig ar y Model Proffilio Maethynnau)
Arall - rhowch fanylion
Esboniwch
Cwestiwn 4. A ddylai cyfyngiadau ar gyfer cynnig 1- cynigion gwerth a chynnig 2 - cynigion lleoliad gynnwys prynu ar-lein?
Cwestiwn 5. A ddylai'r eithriadau canlynol fod yn berthnasol i gyfyngiadau ar gynigion gwerth (cynnig 1)?
- crofusnesau a busnesau bach (oni bai eu bod yn rhan o grŵp symbol gyda 50+ o gyflogeion)
- gostyngiadau mewn pris ar gyfer eitemau sydd bron â chyrraedd eu dyddiad defnyddio olaf
- ynhyrchion nad ydynt wedi'u pecynnu ymlaen llaw
- arall
Cwestiwn 6. A ddylai'r eithriadau canlynol fod yn berthnasol i gyfyngiadau cynigion lleoliad (cynnig 2)?
- microfusnesau a busnesau bach (oni bai eu bod yn rhan o grŵp symbol gyda 50+ o gyflogeion)
- siopau sy'n llai na 185.8 metr sgwâr (2,000 troedfedd sgwâr) (hyd yn oed os ydynt yn cyflogi mwy na 50 o gyflogeion neu'n rhan o grŵp symbol sy'n cyflogi mwy na 50 o gyflogeion)
- manwerthwyr arbenigol sy'n gwerthu un math o gategori cynnyrch bwyd, er enghraifft siopau siocled neu siopau melysion
- arall
Thema 2: Bwyta'n Iachach y Tu Allan i'r Cartref – Deall sut y mae'n cyfrannu at eich pwysau
Cwestiwn 7. A ddylid cytuno i gyflwyno labelu calorïau gorfodol ym mhob lleoliad y tu allan i'r cartref waeth beth yw maint y busnes?
Cwestiwn 8. A ddylai labeli egni gael eu cyfyngu i galorïau (Kcals)?
Cwestiwn 9. A ddylai bwydlenni sy'n cael eu marchnata'n benodol ar gyfer plant gael eu heithrio o'r gofyniad i labelu calorïau?
Cwestiwn 10. A ddylid gorfodi busnesau i sicrhau bod bwydlenni heb labeli calorïau ar gael ar gais?
A oes mesurau lliniaru eraill y gallem eu rhoi ar waith ar gyfer pobl ag anhwylderau bwyta?
Cwestiwn 11. A ddylai'r gofyniad i arddangos labeli calorïau gynnwys gwerthiannau ar-lein?
Cwestiwn 12. A ddylid cyfyngu ar yr arfer o ail-lenwi diodydd meddal llawn siwgr am ddim yn y sector y tu allan i’r cartref?
Cwestiwn 13. A ddylid cyfyngu ar ddognau mwy o ddiodydd meddal llawn siwgr yn y sector y tu allan i'r cartref?
Os dylid, ydych chi’n meddwl y dylai hyn gael ei gyfyngu i 1 peint (0.57 litr)?
Cwestiwn 14. A ddylai'r lleoliadau canlynol gael eu heithrio o'r gofynion ar gyfer labelu calorïau a chyfyngu ar ddiodydd meddal?
- ysgolion a cholegau
- lleoliadau'r blynyddoedd cynnar a gofal plant
- cleifion mewnol mewn ysbytai
- cartrefi a lleoliadau gofal
- elusennau sy'n gwerthu bwyd a diod
- arall
Cwestiwn 15. A ddylai busnesau bach a chanolig sy'n darparu bwyd a diod y tu allan i'r cartref gael eu cynnwys yn y gofynion ar gyfer labelu calorïau a chyfyngu ar ddiodydd meddal?
Cwestiwn 16. A ddylai’r cynhyrchion canlynol gael eu heithrio o’r gofyniad i labelu calorïau?
- eitemau ar y fwydlen sydd ar werthu am 30 diwrnod neu lai ac eitemau sydd wedi'u pecynnu ymlaen
- llaw oddi ar y safle (a oedd eisoes yn arddangos gwybodaeth am faeth)
- pupur a halen a ychwanegwyd gan y cwsmer
- ffrwythau neu lysiau rhydd
- arall
Thema 3: Amgylcheddau bwyd lleol Iachach – newid y cydbwysedd
Cwestiwn 17. Pa gymorth a mesurau y gallem eu rhoi ar waith i helpu i wella nifer yr opsiynau iachach sydd ar gael mewn ardaloedd lleol?
Question 18. Should we review existing planning and licensing support, including guidance, to address the distribution of hot food takeaways, particularly close to secondary schools and colleges?
C19. Ydych chi’n ymateb fel unigolyn, neu ar ran sefydliad neu fusnes? (dewiswch un opsiwn yn unig)
Cwestiwn 20. Os ydych yn ateb ar ran busnes, beth yw maint y busnes? (dewiswch un opsiwn yn unig)
Mesurau posibl eraill ac effeithiau ehangach
Cwestiwn 21. Nodwch fanylion opsiynau eraill a allai, yn eich barn chi, helpu i hyrwyddo newid cadarnhaol yn yr amgylchedd bwyd, a chynorthwyo pobl yng Nghymru i wneud dewisiadau iachach.
Hoffech chi godi unrhyw faterion eraill?
Cwestiwn 22. Ydych chi o’r farn y gallai’r cynigion yn y ddogfen ymgynghori hon gael effaith ar y canlynol?
Cwestiwn 23. Hoffem glywed eich barn am yr effaith y byddai’r ymgynghoriad yn ei chael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac ar beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Beth fyddai’r effeithiau posibl yn eich barn chi? Sut gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu leihau'r effeithiau negyddol?
Cwestiwn 24. A oes unrhyw grwpiau eraill mewn cymdeithas na chyfeiriwyd atynt eisoes y byddai unrhyw un o’r cynigion yn cael effaith arnynt yn eich barn chi?
Cymorth i fusnesau a’r effaith ar fusnesau
Cwestiwn 25. Pa gymorth y gellid ei ddarparu i helpu’ch busnes i baratoi ar gyfer y cynigion canlynol:
- cyfyngiadau ar hyrwyddo cynnyrch (Thema 1 - cynigion 1 a 2)
- gofyniad gorfodol i arddangos calorïau (Thema 2 - cynnig 3)
- cyflwyno cyfyngiadau ar weini diodydd meddal llawn siwgr (Thema 2- cynnig 4)
- cyfyngiadau ar siopau tecawê bwyd poeth ger ysgolion a cholegau (Thema 3 - cynnig 6)
Esboniwch
C26. Rydym wedi cyfrifo costau pontio dangosol yn y ddau asesiad effaith. A yw’r cyfrifiadau hyn yn adlewyrchu asesiad teg o’r costau y byddai’ch sefydliad/busnes yn eu hwynebu?
Cwestiwn 27. A oes gennych unrhyw dystiolaeth neu ddata arall rydych am eu cyflwyno er mwyn i ni eu hystyried ar gyfer ein hasesiad effaith terfynol, neu unrhyw sylwadau penodol am y fethodoleg neu’r rhagdybiaethau a wnaed?
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i’r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny: