2023-2024 AGIC - RhYÏ(CM) - Holiadur Cleifion

0%

1. Mae eich barn yn bwysig

 
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yw'r arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru.  Rydym yn arolygu ansawdd triniaethau yn y lleoliad hwn i wirio bod cleifion yn cael y safonau gofynnol o ofal.

Gofynnir ichi ein helpu trwy gwblhau'r holiadur hwn.  Barn y cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn yw'r ffordd bwysicaf o adael i ni wybod am ansawdd y gwasanaeth a ddarperir.

Mae'n ddienw  ac ni fydd modd i unrhyw un eich adnabod o'ch atebion. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â chynnwys unrhyw wybodaeth yn yr holiadur hwn a allai ddatgelu pwy ydych chi'n bersonol. Mae'r holl gwestiynau'n ddewisol, oni bai y nodir fel arall.

Dylech ond gwblhau’r holiadur hwn os ydych wedi cael gweithdrefnau ymbelydredd ïoneiddio yn yr adran hon. Gall y mathau hyn o weithdrefnau gynnwys gweithdrefnau diagnostig megis pelydrau-X a sganiau CT, yn ogystal â thriniaeth radiotherapi.

Diolch am eich cymorth.