Ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
1. A ydych yn cytuno â chynnig 1, sef y gall cyngor ystyried bod person sy'n cael Credyd Cynhwysol wedi gwneud cais am ostyngiad yn y Dreth Gyngor yn awtomatig o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor Llywodraeth Cymru?
2. A ydych yn rhagweld unrhyw heriau o ran rhoi cynnig 1 ar waith neu unrhyw heriau wrth roi cyngor i ymgeiswyr ynglŷn â'u hawliau?
3. A ydych yn cytuno y dylem gyflwyno newidiadau i ddidyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion?
4. Os gwnaethoch ateb ‘ydw’ i gwestiwn 3, a ddylai'r cynllun newid i ddau fand o ddidyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion (opsiwn 2A) neu eithrio didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn gyfan gwbl (opsiwn 2B)?
5. A oes gennych unrhyw syniadau eraill ar gyfer sut y gellid symleiddio neu wella Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor?
6. Beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion ynghylch gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar y Gymraeg yn eich barn chi? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
- A oes unrhyw gyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol, yn eich barn chi?
- A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi?
7. Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y cynigion ynghylch gostyngiadau'r Dreth Gyngor er mwyn:
- cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Materion eraill nas cwmpaswyd
8. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi.