Defnyddiwch y ffurflen hon ar gyfer boeleri, injans, generaduron (wrth gefn ac ar alw) a thyrbinau â mewnbwn thermol o lai na 50MW sy'n cael eu dosbarthu fel cyfarpar hylosgi canolig ac sydd hefyd:
Yn eneraduron penodedig

 mewnbwn thermol sy’n hafal i neu'n fwy nag 20MW (o ran maint) (y cyfeirir ato fel gweithgaredd 1.1 Rhan B), neu

Yn llosgi 50kg neu fwy o fiomas gwastraff yr awr (gweler y diffiniad o fiomas gwastraff) (y cyfeirir ato fel gweithgaredd 5.1 Rhan B)

Ni ddylid defnyddio'r ffurflen hon ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig sy'n rhan o osodiad neu safle gweithredu gwastraff newydd neu bresennol. Dylech ddefnyddio'r ffurflenni gosodiad neu weithrediad gwastraff perthnasol. 

Ni ddylid defnyddio’r ffurflen hon ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig sydd eisoes wedi’i ganiatáu o dan drwydded awdurdod lleol Rhan B. Anfonwch e-bost at mcpd.queries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk os ydych eisoes yn dal trwydded awdurdod lleol Rhan B ac yr hoffech gynnwys eich cyfarpar hylosgi canolig neu eneradur penodedig presennol.
 
Cyn llenwi’r ffurflen gais hon, bydd angen i chi ddarllen drwy’r canllawiau cyfarpar hylosgi canolig a generadur penodedig i sicrhau'r canlynol:
  • Rydych yn gwneud cais am y drwydded gywir
  • Rydych chi'n deall pa wybodaeth ategol y mae angen i chi ei chyflwyno gyda'ch cais
  • Rydych wedi cwblhau'r asesiadau angenrheidiol sy'n ofynnol gan eich math o gais
  • Rydych yn cynnwys y ffi gywir

Rwyf wedi darllen y canllawiau *