Rhoi gwybod am drosedd treftadaeth

1. Gwybodaeth

0%
Mae'r ffurflen hon ar gyfer adrodd am achos o drosedd treftadaeth ar/mewn heneb gofrestredig neu longddrylliad gwarchodedig. Er mwyn eich helpu i leoli’r heneb gofrestredig neu longddrylliad gwarchodedig rydych chi'n cyfeirio atynt, gallwch ddefnyddio Cof Cymru, gwasanaeth ar-lein sy'n dangos darluniau a disgrifiadau cofnod cysylltiedig o Asedau Hanesyddol Dynodedig yng Nghymru. I roi gwybod am bryderon treftadaeth mewn perthynas ag adeiladau rhestredig a pharciau a gerddi hanesyddol cofrestredig, cysylltwch â'ch Awdurdod Cynllunio Lleol.
 
Ffoniwch yr heddlu ar 999 mewn argyfwng, er enghraifft:
  • Mae rhywun wrthi'n troseddu, er enghraifft, yn gwneud gwaith anawdurdodedig a/neu ddifrod (h.y. yn dymchwel neu ddinistrio, yn difrodi, tynnu, gwneud addasiadau, yn creu llifogydd, tipio neu’n canfod metel) 
  • Mae rhywun sy'n cael ei amau o droseddu yn y cyffiniau
  • Mae perygl i fywyd neu eiddo
  • Mae yna ymddygiad bygythiol neu dreisgar

Ffoniwch yr heddlu ar 101 neu ewch ar-lein i adrodd am drosedd a phryderon eraill nad oes angen ymateb brys arnyn nhw, fel:
  • Pan mae eiddo wedi ei ddwyn neu ei ddifrodi ac nad yw'r person dan amheuaeth yno mwyach
  • Os ydych chi'n amau bod rhywun yn defnyddio datgelydd metelau ar safle anghofrestredig, heb ganiatâd perchennog y tir
  • I roi gwybodaeth i'r heddlu am drosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal
Mae'r rhif ffôn 101 ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

I roi gwybod am drosedd a pharhau'n ddienw, cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ewch i'w tudalen rhoi gwybodaeth ar-lein.
  • Fydd dim rhaid i chi roi datganiad ffurfiol, siarad â'r heddlu na bod yn dyst mewn llys.
  • Gallech dderbyn gwobr o hyd at £1,000 os yw'r wybodaeth a roddwch yn arwain at arestio a chyhuddo o leiaf un person.
Mae llinell Crimestoppers ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.